Croeso i Ieuenctid Sir Gâr! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Teulu a Pherthnasau » Beth i'w wneud os bydd rhywbeth yn mynd o chwith » Ffraeo

  • Mae ffraeo yn annifyr, ac yn ystod ffrae mae’n bosib y bydd pethau’n cael eu dweud a fydd yn brifo’ch teimladau
  • Gall ffraeo fod yn fwy annifyr fyth os yw’n digwydd yn rheolaidd gyda’r un person
  • Bydd y rhan fwyaf o bobl ifanc yn ffraeo â’u rhieni neu eu gwarcheidwaid neu eu brodyr a’u chwiorydd, ac mae hyn yn rhan arferol o dyfu i fyny a bod â pherthynas â rhywun
  • Mae hefyd yn beth cyffredin ffraeo â’ch ffrindiau neu’ch cariadon o bryd i’w gilydd
  • Mae gan bawb eu syniadau a’u barn eu hunain, ac os yw’ch rhai chi yn gwrthdaro â rhai rhywun arall, gall hyn arwain at ffrae
  • Ond ni fydd sgrechian a gweiddi ar eich gilydd a chau drysau’n glep yn datrys unrhyw beth. Bydd angen bod yn fwy aeddfed i gael eich ffordd eich hun. Dechreuwch drwy siarad yn ddigyffro am yr hyn rydych chi am ei gael, pam eich bod am ei gael a pham rydych chi’n meddwl y dylai hyn ddigwydd. Yna, heb ymyrryd, gwrandewch ar safbwynt y llall. Yna, gyda’ch gilydd, ceisiwch gyrraedd penderfyniad rydych chi’ch dau yn hapus ag ef, a hynny’n ddigyffro
  • Trwy fod yn aeddfed ac yn barchus, rydych chi’n fwy tebygol o gael eich ffordd eich hun
  • Mae pawb yn ffraeo ac nid yw’n rhywbeth i boeni amdano, ond os ydych chi’n pryderu ynghylch faint rydych chi’n ffraeo â rhywun, siaradwch â nhw a dywedwch wrthyn nhw sut rydych chi’n teimlo. Mae’n bur debyg y byddan nhw’n teimlo’r un fath. Ceisiwch edrych ar yr hyn sy’n achosi’r ffraeon a sut y gallwch chi geisio’u hatal rhag cychwyn yn y lle cyntaf
  • Ni ddylai ffraeo arwain at drais y naill tuag at y llall. Os yw’ch ffraeon yn dod yn dreisgar, ceisiwch help a chefnogaeth

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50