Croeso i Ieuenctid Sir Gâr! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Beth yw Ieuenctid Sir Gâr?

Mae Ieuenctid Sir Gâr yn wefan ryngweithiol sy’n eich galluogi chi i gael gwybodaeth o bob cwr o Gymru.

Mae’n gylchgrawn byrlymus i bobl ifanc sy’n rhoi gwybod ichi beth sy’n digwydd yn Sir Gaerfyrddin, a hynny drwy bedwar rhifyn y flwyddyn.

Mae’n grŵp o wasanaethau a mudiadau ieuenctid sy’n gweithio i roi llais i bobl ifanc yn ein byd modern.

Rydym yn sicrhau bod pobl yn gwybod beth mae pobl ifanc Sir Gaerfyrddin yn ei wneud, boed hynny’n ddigwyddiad, yn brosiect, yn grŵp ieuenctid, neu’n hanes unigolyn llwyddiannus. Ein prif amcanion yw rhoi gwybodaeth ichi, gofalu bod oedolion yn cydnabod eich llwyddiannau, a chynyddu ymwybyddiaeth o’r materion sy’n effeithio ar bobl ifanc.

Beth sy’n wych ynghylch hyn?

Mae Ieuenctid Sir Gâr yn siop un-alwad i gael gwybodaeth ynghylch beth sy’n digwydd yn Sir Gaerfyrddin ac yn siroedd eraill Cymru.

Rydym yn rhoi cyfle ichi fynegi eich barn a rhoi gwybod i eraill beth rydych yn ei wneud. Mae’n wefan ac yn gylchgrawn sy’n cael eu llunio’n bennaf gan bobl ifanc i bobl ifanc.

Beth sydd gan hyn i’w gynnig imi?

Y cwestiwn pwysig!

Mae Ieuenctid Sir Gâr nid yn unig yn rhoi gwybod i bobl am y pethau rydych wedi eu gwneud, rydym yn awyddus hefyd i sicrhau eich bod yn cael cyfle i wneud pethau.

Gwyddom nad yw erthyglau, lluniau, fideos, digwyddiadau a dyluniadau yn syrthio o’r nefoedd, felly rydym yma i hwyluso’r profiadau hynny ichi. A oes ffilm rydych am ei hadolygu? Efallai yr hoffech gael golwg ar beth sy’n digwydd y tu cefn i’r llwyfan yn eich theatr leol? Efallai eich bod am gyfweld â chyflogwr lleol ynghylch y math o waith yr hoffech chi ei wneud rywbryd yn y dyfodol. Mae gan Ieuenctid Sir Gâr lu o bartneriaid sy’n fodlon helpu pobl ifanc i gyrraedd eu nodau; felly gadewch inni eich helpu, ac yna rhoddwn wybod i Gymru gyfan am hynny!

Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw cael cydnabyddiaeth ar ôl treulio amser yn gwneud rhywbeth. Mae unrhyw beth a anfonwch atom ni yn gallu cael ei ddefnyddio yn eich portffolio wrth ichi gynnig am swyddi yn y dyfodol, neu fel archif bersonol o’ch gwaith chi. Mae darllen erthygl rydych wedi ei llunio ar gyfer cylchgrawn lleol neu sylweddoli eich bod wedi treulio amser yn llunio fideo am bwnc pwysig neu ddigwyddiad mawr, yn siŵr o wneud argraff ar gyflogwyr.

Sut allaf i gymryd rhan?

Nid yw Ieuenctid Sir Gâr yn rhywbeth cyfyngedig a dethol! Gall unrhyw un gyfrannu at y cylchgrawn a’r wefan.

Yn wir mae cyfrannu eitemau at y wefan yn rhwydd dros ben. Bydd angen cofrestru ar ein gwefan, sydd ond yn cymryd dwy funud, ac yna gallwch gyfrannu fel y mynnwch! Os oes angen unrhyw gymorth arnoch, anfonwch neges e-bost at EJones@carmarthenshire.gov.uk.

Os ydych wedi llunio erthygl rydych chi’n barnu y gallai hi fod yn addas i gylchgrawn chwarterol Ieuenctid Sir Gaerfyrddin, cysylltwch â Chyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin.

Gan bwyll, beth yw Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin?

Grŵp o bobl ifanc frwdfrydig rhwng 11 a 25 oed o bob cwr o Sir Gaerfyrddin yw Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin.  Mae’r Cyngor Ieuenctid yn rhoi cyfle i bobl ifanc wneud penderfyniadau ynghylch materion sy’n effeithio ar eu bywydau, ac yn sicrhau bod oedolion yn gwrando ar farn a safbwyntiau pobl ifanc ac yn rhoi sylw teg i hynny.

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn gysylltiedig â’r Cyngor Ieuenctid neu os oes gennych syniadau yr hoffech i’r Cyngor Ieuenctid eu hystyried, anfonwch neges e-bost at SJPowell@sirgar.gov.uk.

Ond beth os nad oes gennyf brofiad?

Peidiwch â meddwl bod hynny’n rhwystr!

Mae gan Ieuenctid Sir Gâr ddigon o sgiliau i’ch helpu o ran ysgrifennu, ffotograffiaeth, ffilmio, a threfnu digwyddiadau. Dyma gyfle gwych ichi ddysgu sgiliau buddiol dros ben, ac efallai y gallwch ddilyn cyrsiau achrededig i feithrin eich doniau chi.

Yr unig beth sydd ei angen arnoch yw syniad ynghyd â’r dyfalbarhad i gael y maen i’r wal.

Iawn, mae hynny’n swnio’n grêt! Felly beth rydych chi am imi ysgrifennu amdano?

Popeth ...., wir ichi, popeth dan haul!

Os oes gennych ddiddordeb mewn ysgrifennu erthyglau i gylchgrawn Ieuenctid Sir Gaerfyrddin neu os ydych am roi adroddiad am ddigwyddiad byw yn Sir Gaerfyrddin, rydym am gael y rhain gennych chi. Mae gwefan Ieuenctid Sir Gâr yn cael ei diweddaru drwy’r amser, felly gallwch fynd i’r wefan unrhyw bryd a rhannu eich stori â chymuned Ieuenctid Sir Gâr.

Ond nid dyna ddiwedd arni! Gallwch weld beth mae pobl eraill yn ei wneud ledled Cymru, a chael syniadau newydd neu ymateb â’ch sylwadau am eu herthyglau, ac ati.

Cysylltwch â ni os ydych am drafod unrhyw beth. Rydym yn barod bob amser i estyn cymorth, a byddem yn falch dros ben o’ch helpu i wireddu’r syniad sydd gennych yn eich pen.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50